Cau Tomen yr Hafod
Achosodd y tân diweddar ar Domen yr Hafod rhwng Johnstown a Rhiwabon gwmwl o fwg du trwchus. Gall llosgi plastigau a sbwriel greu deuocsinau a ffwrans, cemegau gwenwynig iawn sy'n medru lledu i'r gadwyn fwyd a chronni mewn mamaliaid mwy, gan gynnwys pobl.
Gorfodwyd y domen yn chwarel Hafod ar ein cymuned fwy na degawd yn ôl gan gynghorau ar Lannau Mersi, a oedd yn gweld hyn fel ffordd hawdd o gael gwared ar eu sbwriel. Er iddo gael ei wrthod gan Gyngor Wrecsam i ddechrau, fe’i ganiatwyd ar apêl gan y gweinidog amgylchedd ar y pryd, Carwyn Jones.
Mae angen ymchwiliad annibynnol arnom i ddarganfod sut y cychwynnodd y tân ac asesu'r peryglon a achoswyd gan y safle tirlenwi a'r mwg.
Mae angen i gynghorau eraill gymryd cyfrifoldeb am eu gwastraff a rhoi’r gorau i gymryd yr opsiwn hawdd o’i ddympio yng Nghymru.
Rydyn ni'n galw am gau Tomen yr Hafod ac ailgylchu neu ailddefnyddio'ch sbwriel.
Llofnodwch a rhannwch ein deiseb.
Yn dilyn y tân ar Domen yr Hafod, rydym yn galw am y canlynol:
- ymchwiliad annibynnol i ddarganfod sut y cychwynnodd y tân ac asesu'r peryglon a achoswyd gan y safle tirlenwi a'r cwmwl du.
- i gynghorau eraill gymryd cyfrifoldeb am eu gwastraff a rhoi'r gorau i gymryd yr opsiwn hawdd o'i ddympio yng Nghymru.
- cau tomen yr Hafod