Dylai'r Llywodraeth roi terfyn ar y 'lladrad cyfreithlon' wargedion pensiynau mwyngloddwyr, yn ol Carrie Harper o Blaid Cymru.
Mae Carrie yn cefnogi ymdrechion Aelodau Seneddol Plaid Cymru, sydd wedi ymuno gyda chyn lowyr i gyflwyno deiseb a thros 100,000 o enwau arni yn mynnu fod y broses yn newid.
Dywedodd y Cyng. Carrie Harper: "Cynllun Pensiwn y Mwyngloddwyr yw un o'r cynlluniau pensiwn mwyaf yn y Deyrnas Gyfunol, gan ddarparu buddianau i bron i 178,000 o aelodau. Mae'r rhain yn cynnwys cyn-lowyr yn ogystal a gweddwon cyn lowyr - yn cynnwys nifer a weithiodd yng nglofeydd y gogledd megis Bersham, Gresffordd, Hafod, Llay Hall a Llay Main, Black Park a Point of Ayr.
"Mae'r cytundeb a wnaed pan breifateiddiwyd British Coal yn 1994 yn galluogi Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i gymryd hanner gwargedion a wneir mewn unrhyw un flwyddyn, sy'n golygu fod arian sydd i fod i fynd at lowyr sydd wedi ymddeol yn mynd i'r Trysorlys. Mae'n ladrad cyfreithlon a dylid rhoi terfyn ar hyn."
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter