Mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi cyflogi ymgynghorwyr drud i feddwl sut i arbed arian. Dyma'r bwriad anhygoel: Ymestyn sifftiau nyrsys hanner awr ychwanegol heb dâl.
Byddai'r cynnig, sy'n rhannu o ymgynghoriad ar hyn o bryd, yn golygu bod disgwyl i nyrs sy'n gweithio shifft 12 awr 30 munud (gyda hanner awr o seibiant di-dâl) weithio'r un shifft ond dim ond yn cael ei thalu am 11 awr 30 munud.
Ar hyn o bryd mae llawer o nyrsys yn cymryd eu seibiannau ar eu wardiau neu eu huned ac i bob pwrpas ar gael mewn argyfwng. Mae rheolwyr yn dibynnu ar ewyllys da staff gweithgar yn barod ac mae'r bwriad yma'n bygwth tanseilio morâl nyrsio ac ewyllys da yn llwyr.
I bob pwrpas, bydd y newidiadau yn golygu y bydd nyrsys amser llawn yn gorfod gweithio shifft ychwanegol y mis i wneud iawn am yr oriau di-dâl.