Cefnogwch ein nyrsus - dim gweithio ychwanegol am ddim

Rota nyrsys Gogledd Cymru: 'Bydd newidiadau yn golygu shifft ddi-dâl ychwanegol bob mis'

Mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn targedu nyrsys er mwyn arbed arian.

Mae'r bwrdd iechyd wedi cyflogi ymgynghorwyr drud i feddwl am ffyrdd i arbed arian a'r canlyniad yw: Ymestyn sifftiau nyrsys am hanner awr ychwanegol heb dâl.

Byddai'r cynnig, sydd allan i ymgynghoriad ar hyn o bryd, yn golygu bod disgwyl i nyrs sy'n gweithio shifft 12 awr 30 munud (gyda hanner awr o seibiant di-dâl) weithio'r un shifft ond dim ond yn cael ei thalu am 11 awr 30 munud.

Ar hyn o bryd mae llawer o nyrsys yn cymryd eu seibiannau ar eu wardiau neu uned ac i bob pwrpas ar gael mewn argyfwng. Mae hyn yn dibynnu ar ewyllys da staff gweithgar ac mae'r newid arfaethedig yma yn bygwth tanseilio morâl nyrsio ac ewyllys da yn llwyr.

I bob pwrpas, bydd y newidiadau yn golygu y bydd nyrsys amser llawn yn gorfod gweithio shifft ychwanegol y mis i wneud yn iawn am yr oriau di-dâl.

Cychwynnwyd yr ymgynghoriad gan PriceWaterhouseCooper, un o'r pedwar cwmni cyfrifyddu byd-eang mawr. Bydd yn effeithio ar filoedd o nyrsys a gweithwyr cymorth gofal iechyd mewn gofal eilaidd.

Mae nyrsys sydd wedi siarad â ni'n dweud, os bydd y cynllun yn mynd yn ei flaen, y byddan nhw'n ystyried:

• lleihau oriau
• rhoi'r gorau iddi yn llwyr
• cymryd eu seibiannau oddi ar y ward
• cymryd gwyliau blynyddol yn hytrach na gweithio sifftiau ychwanegol

Mae newidiadau tebyg wedi cael eu gorfodi yn ysbytai Lloegr ond credir mai hwn yw'r tro cyntaf iddo gael ei roi ar brawf yn GIG Cymru.

Yn sail i'r cynnig mae'r angen yn y gyfraith i sicrhau staffio diogel ar bob ward. Mae'r bwrdd hefyd am leihau costau nyrsio asiantaeth trwy sicrhau bod staff gweithwyr cymorth nyrsio a gofal iechyd BCUHB yn cyfrif am y niferoedd.

Mae rheolaeth wael hefyd yn golygu bod amrywiaeth enfawr o ran seibiannau staff - o ddim seibiannau i seibiannau â thâl 75 munud. Ni ddylai safoni'r rhain olygu gorfodi baich ychwanegol annheg ar nyrsys.

Mae Llyr Gruffydd, AC Gogledd Cymru Plaid Cymru, wedi ysgrifennu at brif weithredwr BCUHB i ofyn y canlynol:


• Faint mae PriceWaterhouseCooper wedi'i dalu gan BCUHB am yr ymgynghoriad hwn?
• Faint o nyrsys a gweithwyr cymorth gofal iechyd sy'n cael eu heffeithio gan y cynigion hyn?
• Faint mae'r bwrdd iechyd yn disgwyl ei arbed trwy gyflwyno hyn?
• Beth yw bil misol cyfredol y bwrdd iechyd ar gyfer nyrsio asiantaeth a faint y mae'n rhagweld y bydd yn ei leihau os gweithredir y newidiadau hyn?


Dywedodd Mr Gruffydd:
"Mae BCUHB mewn twll ariannol - ar hyn o bryd mae diffyg o £42 miliwn heb unrhyw obaith o leihau hynny wrth i'r galw godi.


"Mae'r bwrdd iechyd wedi bod mewn mesurau arbennig oherwydd amrywiaeth o fethiannau clinigol ers 2015. Dyma'r pumed flwyddyn o reolaeth uniongyrchol gan y Llywodraeth Lafur ond nid yw'n ymddangosfod pethau'n gwella o ran delio â heriau'r gweithlu.

"Mae nyrsys wedi cysylltu â ni oherwydd bod y cynnig yma'n bygwth tanseilio eu gwaith dydd i ddydd. Mae'n debyg y bydd colli ewyllys da ymhlith miloedd o nyrsys sydd eisoes yn gweithio dan bwysau aruthrol yn gwneud pethau'n waeth. Nid yw'n ffordd i drin staff medrus, profiadol ac arbenigol."


Dywedodd fod angen safoni seibiannau ond bod y cynnig hwn i gyd yn ymwneud ag arbed arian.

Ychwanegodd Mr Gruffydd:
"Rwyf am i BCUHB ail-ystyried y cynnig hwn. Mae'n achosi pryder ymhlith staff sydd ddim angen pwysau pellach arnynt o ran gwaith. Mae morâl staff eisoes yn isel, gallai hyn fod yn ergyd farwol.

"Byddaf hefyd yn ysgrifennu at y gweinidog iechyd Vaughan Gething i weld a yw ei adran, sydd â goruchwyliaeth uniongyrchol o Betsi Cadwaladr, yn gefnogol i'r newidiadau hyn. Neu a ydi o'n cytuno ag AS Llafur Crewe a Nantwich, Laura Smith, sy'n yn gwrthwynebu newidiadau tebyg sydd wedi'u gosod ar nyrsys yn Ysbyty Leighton?

"A ydi o'n gwrando ar undebau fel Unite a'r Coleg Nyrsio Brenhinol? Byddwn yn ei annog i gamu i'r adwy a rhoi'r gorau i'r polisi hwn cyn iddo achosi problemau go iawn gyda'r gweithlu."


• Mae Plaid Cymru wedi lansio deiseb i gefnogi'r nyrsys. Llofnodwch yma: CEFNOGWCH Y NYRSUS


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.